Rydym yn chwilio am dywyswyr

Rydym yn chwilio am dywyswyr

Gwirfoddolwch fel tywyswr teithiau yng Ngwaith Copr Hafod-Morfa.

Rydym eisiau recriwtio a hyfforddi tîm bychan o wirfoddolwyr i arwain teithiau ysgolion a theithiau i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â Safle Gwaith Copr Hafod-Morfa.

Hoffech chi fod yn un ohonyn nhw?

Byddech yn derbyn hyfforddiant ac yn dod i adnabod y hanes y safle, cael gwybod pa adnoddau sydd ar gael ar eich cyfer ac yn derbyn cyngor am weithio gyda’r cyhoedd/plant ysgol. Byddem yn gofyn i bobl fod ar gael yn achlysurol o fis Ebrill ymlaen.

Mae cyfle hefyd i ymestyn taith Hafod-Morfa i’r Garreg Wen, pum munud  o gerdded ar draws yr afon.

E-bostiwch Stuart Griffin [email protected] i gael rhagor o fanylion.

SHARE IT: