Gwefan Croeso i Waith Copr y Morfa Abertawe
Unwaith roedd Gwaith Copr y Morfa’n ganolbwynt i ddiwydiant copr y byd ac yn hanfodol i ddatblygiad Abertawe. Bellach mae’n ganolbwynt prosiect adfywio treftadaeth arloesol.
Ar y wefan hon fe gewch wybodaeth am orffennol, presennol a dyfodol y safle.
Gallwch ddysgu am hanes pwysig y safle, fe gewch wybodaeth ymarferol am ymweld â’r safle heddiw yn ogystal â chynlluniau ar gyfer datblygu’r safle yn y dyfodol a sut y gallwch gymryd rhan yn y prosiectau a’r digwyddiadau.
‘Golwg hynod ar fyd sy’n diflannu. Gallwch ddychmygu’n hawdd pa mor wahanol yr oedd yr ardal yn edrych pan oedd y diwydiant ar ei anterth’
dyfyniad gan ymwelydd, 2013‘Rydym yn tueddu i feddwl fod hanes Cymru wedi’i ysgrifennu mewn llwch glo a haearn a dur. Mewn gwirionedd, copr sy’n greiddiol i ddatblygiad Cymru fel gwlad ddiwydiannol.’
Yr Athro Huw Bowen