Canfuwyd – Pont Camlas y Morfa
Mae Pont y Morfa dros Gamlas Abertawe wedi cael ei chanfod, er bod peth difrod iddi, gan ddod â chyfnod hir o drafod i ben ynghylch a oedd y bont yn gyfan ai peidio. Arweiniodd cloddi cymunedol Pont Camlas yr Hafod yn 2013 at agor y drafodaeth eto ar ôl i hynny brofi nad oedd y prif bont yno bellach. Mae hyn yn newyddion gwych i’r prosiect, yn benodol oherwydd bod cynlluniau’r dyfodol, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cynnig ail-osod hon fel mynedfa bwysig i’r safle. Cafodd y bont ei datgladdu gan dîm archeolegol wedi’i ariannu gan brosiect Ffordd Ddosbarthu’r Morfa. Mae ymchwiliadau’n digwydd nawr i ystyried opsiynau ar gyfer ail-osod y bont i’w defnyddio gan gerddwyr.
Mae rhagor o luniau i’w gweld ar flickr