Arian newydd ar gyfer y Bont Wrthbwys
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi derbyn £200,000 ychwanegol i adnewyddu’r Bont Wrthbwys, a welir yn y llun. Mae hyn ar ben £550,000 sydd eisoes wedi’i glustnodi ar gyfer y gwaith ac mae’n cyrraedd y targed ar gyfer dechrau’r gwaith. Y cam nesaf yw gwneud cais i Cadw am gael dechrau’r gwaith. Felly, mae’n edrych yn obeithiol y bydd y Bont Wrthbwys yn gallu cael ei defnyddio eto yn y dyfodol gweddol agos.
SHARE IT: