Teithiau tywys yn cychwyn eto
Mae Cyfeillion Gweithfeydd Copr Hafod Morfa, a Chanolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe yn ailddechrau’r rhaglen boblogaidd o deithiau tywys o amgylch safle Gweithfeydd Copr Hafod Morfa. Bydd y cyntaf ar ddydd Sadwrn 9fed Ebrill am 11:00am. Bydd taith gerdded ganol wythnos reolaidd ar ddydd Mercher cyntaf bob mis gan gynnwys 4ydd Mai, 1af Mehefin, 6ed Gorffennaf, 3ydd Awst. Am ragor o fanylion cadwch lygad ar yr adran ddigwyddiadau o’r safle hwn.
SHARE IT: