Roedd Gwaith Copr Hafod-Morfa unwaith yn guriad calon y Chwyldro Diwydiannol. Er bod y safle’n ddiffaith bron bellach, unwaith roedd wedi ei orchuddio’n llwyr gan ddrysfa o adeiladau a phentyrrau sorod wedi eu creu fel sgil gynnyrch y broses mwyndoddi copr.
Ar ei anterth, byddech wedi gweld Gwaith Copr Hafod-Morfa fel cyfres o adeiladau diwydiannol enfawr, swnllyd dros ben ac eithriadol o boeth. Roedd yr adeiladau’n llawn o beiriannau pwerus gyda byddin o weithwyr oedd yn hanfodol i’r broses gwneud copr, er eu bod yn fychan iawn o gymharu â graddfa’r fenter.
Yn ganlyniad i alw anniwall y Chwyldro Diwydiannol am gopr, ac wedi’i yrru gan wyddoniaeth, roedd Gwaith Copr Hafod-Morfa’n cael ei fwydo gan Gamlas Abertawe ar un ochr a gan yr Afon Tawe ar yr ochr arall. Roedd y gamlas yn cludo glo rhad o lofeydd Cwm Tawe Uchaf, a’r afon yn dod â mwyn copr o Gernyw i ddechrau, ac yna o Ynys Môn ac yn y pen draw o’r byd ehangach er mwyn bwydo ffwrneisi’r gwaith. Yn sgil hyn daeth Abertawe’n borthladd diwydiannol o bwysigrwydd byd-eang.
Er mai olion sydd yma bellach, mae digon ar ôl ar y safle, mewn ffotograffau ac yn atgofion y bobl fu’n gweithio yma unwaith i’n galluogi i ail-greu byd diwydiannol colledig Gwaith Copr Hafod-Morfa i genedlaethau newydd gael profiad ohono.
Adeiladu ar safle Hafod-Morfa
Ym 1808-9 adeiladodd yr entrepreneur o Gernyw, John Vivian, waith yr Hafod, yn adeiladwaith cymhleth, wedi’i gynllunio, oedd i ddod y mwyaf o’i fath yn Ewrop. Ym 1835 agorodd Williams, Foster a’r Cwmni waith y Morfa ar dir cyfagos, gyda wal uchel yn gwahanu safleoedd y ddau gwmni cystadleuol. Roedd gan y ddau waith dai injan i yrru eu melinau rowlio, oedd yn sefyll wrth ochr neuaddau mwyndoddi lle’r oedd nifer fawr o ffwrneisi wedi eu gosod allan mewn rhesi hir.
Cafodd y ddwy safle eu cyfuno i ffurfio Gwaith Copr Hafod-Morfa ym 1924, er bod mwyndoddi copr wedi dod i ben yr adeg honno. Parhaodd y gwaith o gynhyrchu nwyddau copr gorffenedig tan 1980 pan gaeodd y gwaith ei ddrysau am y tro olaf gyda’r safle’n cael ei gadael.
Er bod rhan helaeth o’r safle 12 ½ erw wedi cael ei chlirio ers hynny, mae’r adeiladau a’r strwythurau sydd wedi goroesi’n cynrychioli rhai o’r olion diwydiannol arwyddocaol pwysicaf yn rhyngwladol i’w canfod yng Nghymru.
Diwydiant copr Cwm Tawe Isaf
Yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar ddeg, chwaraeodd Cwm Tawe Isaf ran allweddol yn Chwyldro Diwydiannol Prydain. Ers 1717, mwyndoddi oedd yn graidd i’r datblygiad, gyda glo lleol yn cael ei ddefnyddio i rostio mwynau wedi eu mewnforio o Gernyw ac Ynys Môn, ac yna o wledydd pell megis Chile ac Awstralia.
Erbyn 1850 roedd un ar ddeg o weithfeydd copr wedi cael eu sefydlu ar lannau’r Afon Tawe, ac am gyfnod roeddent yn cynhyrchu dros hanner cynnyrch copr tawdd y byd. Roedd y diwydiant mor bwysig nes bod Abertawe gael ei enwi’n ‘Copperopolis’.
Ond talwyd pris uchel am y llwyddiant hwn, wrth i’r Cwm gael ei lygru gan y mwg gwenwynig trwchus a’r llwythi mawr o wastraff copr neu ‘slag’ oedd yn cael ei gynhyrchu gan y gwaith mwyndoddi.
Datblygodd diwydiannau metel eraill megis tunplat yn y Cwm, ond erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif roedd mwyndoddi copr yn dirywio a chafodd y gweithfeydd eu gadael yn raddol, gan adael tirwedd ddiffaith a di-goed ar eu hôl. Ym 1960 y Cwm oedd un o’r ardaloedd diwydiannol mwyaf adfeiliedig yn Ewrop, ond yna trawsnewidiodd Prosiect Cwm Tawe Isaf y ‘lloerwedd’ hon i fod y cwm gwyrdd adfywiedig a welir heddiw.
“Roedd copr Abertawe’n ffenomen fyd-eang wirioneddol, yn cynnwys cwmnïau mwyngloddio ar wahanol gyfandiroedd a symud cyfalaf, llafur a thechnoleg ar draws pellteroedd enfawr.” Dr Chris Evans, Prifysgol De Cymru
Ffotograffau hanesyddol
Dyma gasgliad o ffotograffau o’r safle ar adegau gwahanol yn y gorffennol. Cliciwch ar unrhyw un o’r delweddau isod i gael golwg agosach.
Ffeithiau Allweddol am Gopr
Cafodd copr ei fwyndoddi gyntaf yng Nghwm Tawe Isaf gan Dr John Lane ym 1717. Erbyn 1800 roedd wyth gwaith mwyndoddi mawr wedi cael eu sefydlu
Ym 1824, roedd 15,000 o bobl yn byw yn Abertawe. Roedd 10,000 ohonynt yn cael eu cynnal gan y diwydiant copr.
Cafodd Gwaith Copr yr Hafod ei sefydlu gan John Vivian ym 1810 ac erbyn 1900 hwn oedd gwaith copr mwyaf y byd. Gwaith Morfa a sefydlwyd gan Williams, Foster & Cwmni ym 1835; daeth y ddau at ei gilydd ym 1924 i greu Yorkshire Imperial Metals
Cwm Tawe Isaf oedd canolbwynt y diwydiant trwm cyntaf i gael ei integreiddio’n fyd-eang:
-
Roedd y mwynau copr yn cael eu mewnforio o: Gernyw, Chile, Ciwba, De Awstralia, Gogledd America
-
Roedd copr wedi’i fwyndoddi’n cael ei allforio i: Ewrop, India, Tsieina, Japan, Affrica,
Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Abertawe’n mwyndoddi canran enfawr o gopr y byd. Nid yw’r ffigur yn glir, ond amcangyfrifir ei fod tua 65%.
Cafodd Tre-Vivian, sef yr Hafod bellach, anheddiad unigryw i weithwyr, ei greu o 1838 ymlaen.
Dechreuodd y gwaith o fwyndoddi copr yng Nghwm Tawe Isaf ddirywio ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Erbyn 1950 Cwm Tawe Isaf oedd tirwedd ddiffaith ôl-ddiwydiannol mwyaf Ewrop.
Ardal wedi’i thrawsnewid gan Brosiect Cwm Tawe Isaf, dan arweiniad Coleg Prifysgol Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe o 1961 ymlaen
Cafodd pob un ond un o’r 124 gwaith copr oedd yn gweithio yng Nghwm Tawe Isaf yn y 1880au eu chwalu yn y 1960au. Caeodd Gwaith Hafod-Morfa ym 1980 ac felly mae’n gofeb bwysig yn nhreftadaeth ddiwydiannol Abertawe.
Mae’r safle presennol yn cynnwys Deuddeg o adeiladau neu strwythurau rhestredig o arwyddocâd rhyngwladol; rhyw 167 o adeiladau neu strwythurau eraill sy’n arwyddocaol mewn perthynas â chopr
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Arddangosfeydd rhyngweithiol ar ddiwydiant ac arloesedd yng Nghymru.
Ewch i’r wefan >
Canolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe
Mae storfa Amgueddfa Abertawe wedi’i leoli yn yr hen felin rowlio ar safle Gwaith Copr Hafod-Morfa
Ewch i’r wefan >
Byd o Gopr Cymreig
Mae’r wefan hon yn darparu llu o adnoddau am ddim wedi eu creu gan Brosiect Adfywio’r Hafod.
Ewch i’r wefan >