Cafodd y 18 recordiad sain eu recordio yn 2014 gan wirfoddolwyr oedd eisiau cefnogi’r gwaith datblygu ar y safle. Mae modd clywed pob un ar ddyfeisiau weindio ar y safle. Mae’r cyfan wedi eu tynnu o ffynonellau hanesyddol wedi eu hymchwilio gan dîm o Brifysgol Abertawe.
Gwrandewch ar Michael Faraday a ddaeth ar ymweliad i Waith Copr yr Hafod ym 1819 (Llefarydd Cymraeg: Chris Reynolds)
Gwrandewch ar Mr Povey oedd yn rheolwr Gwaith Copr y Morfa ym 1850 (Llefarydd Cymraeg: Alan Williams)
Gwrandewch ar ffwrneismon yn adrodd hanes ei ddiwrnod gwaith ym 1850 (Llefarwyr Cymraeg: Chris Reynolds a Gethin Thomas)
Gwrandewch ar John Thomas oedd yn fforman yng Ngwaith Copr yr Hafod ym 1841 (Llefarydd Cymraeg: Trevor Jones)
Gwrandewch ar ffermwr yn Llansamlet yn disgrifio’r effaith yr oedd y Gwaith Copr yn ei chael ar y tir amaethyddol cyfagos ym 1833 (Llefarydd Cymraeg: Stuart Davies)
Fel bachgen ym 1916, cafodd George Paddison ddamwain oedd bron â’i ladd yn y Tŷ Injan (Llefarydd Cymraeg: Kate Evans)
12 oed oedd James Jones pan oedd yn gweithio yng Ngwaith Copr y Morfa ym 1841 (Llefarydd Cymraeg: Steffan)
“Rydw i ym mhobman yn yr Hafod ond yn unman yn y llyfrau hanes”. Hanes bywyd cyfansawdd. (Llefarydd Cymraeg: Iona)
Gwrandewch ar y Capten David Morgan 1836-1930, Morwr yr Horn o Abertawe (Llefarydd Cymraeg: Tudur Hallam)