Prosiect yn ennill Gwobr Parthian a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am Effaith Eithriadol mewn Diwylliant, y Celfyddydau a Chwaraeon
Prosiect yn ennill Gwobr Parthian a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am Effaith Eithriadol mewn Diwylliant, y Celfyddydau a Chwaraeon
Cafodd y gwaith cadarnhaol o adfywio Gwaith Copr Hafod-Morfa gydnabyddiaeth ym mis Mehefin pan enillodd Wobr Parthian a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am Effaith Eithriadol mewn Diwylliant, y Celfyddydau a Chwaraeon. Canmolodd y wobr yr ymchwil cychwynnol i’r diwydiant copr a’r gwaith i godi proffil rôl arweiniol Abertawe yn y diwydiant copr byd-eang, a weithredodd fel catalydd ar gyfer cam cyfredol adfywio’r safle. Cafodd dull y prosiect o ymgysylltu ei ganmol hefyd.
Gobeithio y gallwn barhau i ddatblygu ymchwil a chyfranogiad y gymuned wrth i’r gwaith o ddatblygu’r safle fynd ymlaen!