• Facebook
  • Twitter
  • Flickr
  • Youtube
  • Cartref
  • Prosiect Cu@Swansea
  • Cysylltu
15272934127_f9a0a7dcd8_k

Ymweld â’r safle heddiw

Mae Gwaith Copr Hafod-Morfa yn croesawu ymwelwyr 365 dydd y flwyddyn. Mae’r safle yn agored i bawb a gobeithiwn bod digon o wybodaeth ac arwyddion ar y safle i ganiatáu i chi ffeindio eich ffordd o’i gwmpas. Mae modd trefnu ymweliadau i grwpiau ac i ysgolion, gan ddibynnu ar argaeledd tywyswyr sy’n gwirfoddoli, a gwnawn ein gorau i drefnu digwyddiadau achlysurol sy’n rhoi cyfle i chi ddysgu rhagor.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad.

Llwybrau Sain a Dehongli

Mae cyfres o lwybrau newydd yn caniatáu i chi archwilio nodweddion allweddol y dreftadaeth ddiwydiannol a naturiol yn y safle. Y lle gorau i gychwyn yw’r gwaith celf ar y simnai gerllaw’r maes parcio newydd, lle gallwch ddefnyddio’r map i’ch cyfeirio eich hyn ac i ddysgu am y cyd-destun. Mae 9 panel dehongli yn disgrifio’r prif nodweddion treftadaeth a 4 pwynt cymeriad/dyfeisiau sain yn adrodd cyfanswm o 9 stori. Mae safle picnic newydd yn edrych allan dros y tai injan ac mae safle picnic is i lawr yn rhoi cyfle i chi eistedd ynghanol y tai injan a’r simneiau.

Y dreftadaeth ddiwydiannol

Erbyn hyn mae 15 o strwythurau â phwysigrwydd arwyddocaol yn dal ar y safle

Melin Rholio (1)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli  »


Sylfaen Simnai (2)


Pwerdy / Adeilad y Ffreutur (3)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli  »


Adeilad y Labordy (4)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli »


Muriau Gogleddol y Gamlas, Ategwaith Slag Copr (5)


Mur Ffin y Gamlas (6)


Odyn Galch yr Hafod (7)


Mynedfa’r Hafod (8)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli  »


Peiriandy Vivian (9)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli »


Simnai i’r gorllewin o Beiriandy Vivian (10)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli »


Peiriandy Musgrave (11)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli  »


Mur Terfyn yr Hafod (12)


Swyddfa’ r Gweithfeydd (13)


Cei Afon Gwaith Copr yr Hafod (14)
Gweler y llun a’r wybodaeth ddehongli  »


Hen Sied Locomotif Vivian (15)


copperworks-map
common-kingfisher

Common Kingfisher

Y dreftadaeth naturiol

Ers i’r safle gau ym 1980, mae natur wedi symud i mewn i ailfeddiannu rhannau o’r safle ac mae llawer o waith wedi’i wneud i lanhau llygredd yn yr ardal, yn cynnwys yn yr afon. Mae’n fan braf iawn i gerdded, i eistedd ac i ymlacio. Mae’r afon yn ddiddorol iawn, gyda golygfeydd i’r de ddwyrain dros Fynydd Cilfái, (dros y pum mlynedd diwethaf mae dyfrgwn, morloi a glas y dorlan wedi cael eu gweld yma) ac mae adran ogleddol y gamlas, sy’n goediog bellach, hefyd yn ddiddorol, yn gartref i ddau rywogaeth prin o goedwyrdd a mwsogl prin o Chile, y credir iddo gyrraedd ar gwch copr.

Gwybodaeth ymarferol i ymwelwyr

Gofynnwn i ymwelwyr sy’n dod i’r safle gofio nad yw’r adeiladau lle mae ffensys yn eich cadw allan yn ddiogel ar gyfer mynediad i’r cyhoedd. Byddwch cystal â pharchu yr holl strwythurau eraill drwy beidio â dringo arnynt.

Mae bws rhif 4 o orsaf fysiau Abertawe i Dreforys yn stopio ar Ffordd Castell Nedd.

Llwybrau cerdded a phellteroedd

tour-guide

Mae taith gerdded o amgylch y safle cyfan, yn cychwyn wrth y nodweddion dehongli ger y maes parcio newydd ac yn mynd i fannau pellaf y sied locomotif V&S, rhan ogleddol Camlas Abertawe a Chanolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe yn daith o ryw 1500 metr. Mae nifer o lwybrau byrrach hefyd yn bosibl, a cheir manylion isod.

Y daith sain. Mae’r daith gerdded hon yn digwydd yn y prif gelfwaith ac mae dyfeisiau sain yn caniatáu i chi glywed y lleisiau o hanes y safle. Mae’n 500 medr o hyd. Cychwynnwch yn y prif faes parcio lle bydd y byrddau’n rhoi cyflwyniad o’r safle i chi. Yna ewch i’r de tuag at yr afon. Awgrymwn eich bod yn cychwyn gyda’r ddyfais sain ar lan yr afon gyda hanesion Morwyr yr Horn, ffermwr lleol a’r gwyddonydd. Ewch yn ôl yr un ffordd at y pwynt cymeriad ar waelod y ramp sy’n dangos y gweithiwr o blentyn a bachgen y tŷ injan. Ewch i gyfeiriad pwynt cymeriad 3 gan droi i’r chwith a mynd i fyny’r ramp i’r fan sy’n edrych i lawr dros y Tŷ Injan. Dilynwch y llwybr i’r dde ac fe ddewch at bwynt cymeriad 2 sy’n rhoi darlun o’r Fenyw o’r Hafod a’r Fforman. Ewch ymlaen i fyny’r ffordd, croeswch i’r pafin yr ochr draw a cherdded i lawr y tyle (ar y dde) tuag at adeilad y Labordy a phwynt cymeriad 4 lle gallwch glywed lleisiau’r Rheolwr a’r Ffwrneismon.

Taith gerdded glan yr afon Wrth gerdded ar hyd glan yr afon Tawe, mae’n bosibl dychmygu sut le oedd Cwm Tawe Isaf cyn dyfodiad cloddio am lo  a mwyndoddi copr. Mae’r rhan dawel hon o’r afon yn cael ei defnyddio gan gerddwyr, beicwyr, pysgotwyr a rhwyfwyr. Mae’r daith o’r maes parcio i’r sied locomotif V ac S a ffin ddeheuol y safle ac yn ôl o gwmpas 800 metr.

Canolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe.  Mae canolfan casgliadau’r amgueddfa, sydd o fewn Melin Rowlio’r Morfa, yn cynnwys casgliad diddorol ac eclectig o arteffactau ac archifau sy’n ymwneud â’r Gwaith Copr a llawer mwy.  Mae hefyd yn cynnwys arddangosfa Copperopolis. Mae ar agor ar ddyddiau Mercher. Mae’n 600 medr o’r maes parcio i Ganolfan Casgliadau’r Amgueddfa ac yn ôl.

Llwybr Camlas Abertawe Mae adran ogleddol y gamlas, bellach yn stribyn tenau o goetir rhwng waliau’r hen gamlas, adeiladau’r gwaith a glanfeydd tramffyrdd yn daith gerdded atmosfferig a hudolus. Mae’r waliau sydd newydd gael eu hadnewyddu’n wledd i’r llygaid ac yn dangos sut y cafodd safleoedd y gweithfeydd copr eu hadeiladu gydag unrhyw ddefnyddiau yr oedd modd cael gafael arnynt, yn cynnwys llawer o slag copr. Dylech nodi mai llwybr troed carreg garw sydd yma sy’n golygu nad yw’n hygyrch i bob ymwelydd. Mae’r daith i ddiwedd y gamlas ac yn ôl, drwy Mynedfa’r Hafod o gwmpas ????

Safleoedd Hafod-Morfa a’r Garreg Wen wedi’u cyfuno. Mae safle’r Garreg Wen yr ochr arall i’r afon a byddai’n 1600 metr ychwanegol ar gyfer taith o amgylch y safle. Gweler http://whiterocktrails.org/ am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth ar gyfer ymweliadau gan ysgolion

Mae nifer o adnoddau ar gael i ysgolion, yn cynnwys adnodd ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 sydd ar gael ar y dudalen ysgolion. Ar adegau gallwn gynnig teithiau o gwmpas y safle gan aelodau gwirfoddol o’r gymuned sy’n perthyn i grŵp Cyfeillion y Gwaith Copr a gan fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe.

Ymestyn eich Ymweliad

Gallwch gyfuno ymweliad â Gwaith Copr Hafod-Morfa gydag ymweliad i:

 Ganolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe

Parc Treftadaeth y Garreg Wen

a thaith ar Copper Jack 

Canolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe

Mae Canolfan Casgliadau Amgueddfa Abertawe wedi’i leoli yn Melin Rowlio’r Morfa ar safle Gwaith Copr Hafod-Morfa ac mae ar agor i ymwelwyr bob dydd Mercher rhwng 10.00am a 4.00pm. Mae’n cynnwys casgliadau wrth gefn Amgueddfa Abertawe, yn cynnwys y casgliad o’r cyn Amgueddfa Diwydiant a Môr yn Abertawe.

Mae eitemau poblogaidd yn y storfeydd yn cynnwys beiciau modur, hen gerbydau’r heddlu, trenau a thractorau. Fe welwch hefyd hen injan dân a bad achub William Gammon, a roddwyd i’r amgueddfa ym 1992.

Parc Treftadaeth y Garreg Wen

Mae Parc Treftadaeth y Garreg Wen ar yr ochr arall i’r afon o weithfeydd yr Hafod. Mae grŵp o wirfoddolwyr, Cyfeillion y Garreg Wen, yn creu llwybrau digidol hunan-dywys o’r Garreg Wen fel rhan o brosiect gyda chefnogaeth Prosiect Cymunedau Cysylltiedig Prifysgol Abertawe.

Ymddiriedolaeth Cwch Gymunedol Abertawe

Mae’r ymddiriedolaeth yn trefnu teithiau o Farina Abertawe ar hyd yr afon Tawe a heibio’r gweithfeydd copr ar eu cwch, Copper Jack. Mae Copper Jack yn cynnig ystafell ddosbarth ar y dŵr ac amrywiaeth o gyfleusterau i alluogi pobl i ddysgu am dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe.

Ymhen amser maent yn gobeithio sicrhau pontŵn i alluogi mynediad o’r afon i safle gwaith Hafod-Morfa.

Mapiau a Chyfarwyddiadau

Gellir cyrraedd safle Gwaith Copr Hafod-Morfa o’r A4217,

Mae llwybr rhif 43 Sustrans yn mynd drwy safle’r Graig Wen ar ochr arall yr Afon Tawe ar ei ffordd o’r Marina i Aberhonddu.

Mae lle i ryw 15 cerbyd ym maes parcio’r safle a chaiff ei agor gan weithwyr y maes parcio a theithio am 7yb ac yn cael ei gau am 7yh bob dydd.

Hawlfraint 2015 Prifysgol Abertawe | Cedwir Pob Hawl |Prifysgol Abertawe