Y Dyfodol
Mae safle Hafod-Morfa yn lle sy’n cael ei goleddu’n lleol ond sydd ag arwyddocâd cyffredinol a byd-eang ac mae ganddo’r potensial i fod mor bwysig i ddyfodol y ddinas ag yr oedd yn y gorffennol. Mae’r dasg yn mynd rhagddi bellach i ddatgloi potensial y safle a dylunio dyfodol ysbrydoledig ar gyfer y safle sydd wedi ei ffurfio gan ei gorffennol a’i dylunio yn y presennol. Caiff y dyfodol ei ddychmygu, ei greu a’i feithrin gan y gymuned leol. Bydd yn cwrdd â llawer o anghenion, yn trawsnewid bywydau mewn nifer o ffyrdd, ac yn werthfawr i bob un sy’n ymweld.
Ymhen deng mlynedd, bydd Hafod-Morfa’n safle amlwg ar gyfer treftadaeth, dysgu, arloesi ac ymgysylltiad cymunedol; yn enwog yn rhyngwladol, gyda phobl o bob rhan o’r byd yn ymweld, ac yn gartref i weithgareddau a mentrau sy’n dod â bywyd, egni a chreadigrwydd iddo bob dydd.
Daw’r safle yn fan bywiog, prysur a chynaliadwy, wedi’i ddiffinio gan ei dreftadaeth copr, ei hanes, ei dirwedd a’i bensaernïaeth.
Bydd yn dathlu ac yn anrhydeddu cyfraniad unigryw pobl Cwm Tawe Isaf tuag at drawsffurfio Cymru, Prydain a’r economi rhyngwladol.
Bydd yn creu cyfoeth, yn faterol ac yn ddiwylliannol, ar gyfer pobl Abertawe, drwy gyfuniad o fentrau addysgiadol, masnachol a chymunedol, sy’n cael eu huno gan gysylltiadau lleol a byd-eang.
Bydd yn ganolfan ar gyfer dysgu a hyfforddi wedi’i wreiddio yng nghalon y gymuned, gan ymestyn traddodiad hir a chyfoethog o arloesedd, mentergarwch ac entrepreneuriaeth.
Swyddogaethau’r safle
Bydd safle Hafod-Morfa’n gyfrwng i:
-
Ddenu twristiaid ac ymwelwyr i’r ardal
-
Darparu amrywiaeth o gyfleusterau newydd ac ysbrydoledig i bobl leol
-
Cysylltu gyda datblygiadau eraill yn yr ardal
-
Creu cysylltiadau byd-eang drwy gysylltiadau hanesyddol
-
Creu cyfoeth a chynnig cyfleoedd cyflogaeth yn Abertawe
-
Sicrhau fod unrhyw grwpiau lleol yn elwa yn sgil cynnydd mewn egni a gweithgaredd
-
Rhannu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd rhwng grwpiau ac unigolion o bob oed
-
Creu cyfleoedd ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o eithrio cymdeithasol neu economaidd
- Galluogi cyd-ddatblygu prosiectau ymchwil aml-ddisgyblaeth
-
Ehangu cyfranogiad mewn dysgu – ar bob lefel, i bob oedran, ac o fewn bydoedd gwyddoniaeth, celfyddydau a’r dyniaethau, busnes a gwyddor gymdeithasol
Labordy Hanes Byw
Er mwyn ein helpu i gyflawni’r dyheadau hyn, byddwn yn creu ‘Labordy Hanes Byw’. Bydd hwn yn gweithredu fel cyfleuster ymchwil a dysgu, ac yn darparu amgylchedd lle bydd modd meithrin a datblygu is-gwmnïau a busnesau bach a chanolig.
Bydd hwn yn gyfleuster heb ei ail wedi’i wreiddio yng nghalon tirwedd treftadaeth sy’n adfywio ac sydd o arwyddocâd byd-eang
-
Gofod i’w rannu ar gyfer cydweithio a chyfranogiad y gymuned a busnes.
-
Platfform ar gyfer darparu rhaglenni ymchwil, addysgu a dysgu newydd
-
Gofod unigryw ar gyfer dathlu a deall arloesedd Cymreig o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol
-
Adnoddau digidol o’r radd flaenaf i’w defnyddio gan y gymuned, ysgolion, colegau a phrifysgolion
Masterplan
Mae dogfen weledigaeth newydd ar gyfer datblygiad pellach Gwaith Copr Hafod-Morfa ar gael yma nawr. Mae’r ddogfen weledigaeth, gyda mapiau a darluniau, yn dangos sut y bydd y safle, oedd unwaith yn cyflogi cannoedd o bobl leol, unwaith eto’n gatalydd ar gyfer adfywio o fewn Cwm Tawe. Mae’n disgrifio cyfuniad o weithdai creadigol, gweithle ysbrydoledig, cyfleusterau addysgol, tai, cyfleusterau cymunedol a labordy hanes byw yn y safle wedi’u datblygu i gyd-fynd â chymeriad hanesyddol y safle.
Gweld y Ddogfen »
Cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf
Yn 2015 gobeithiwn wneud cais am gyllid er mwyn
-
ymgysylltu rhagor o bobl mewn hanes cymunedol, celfyddydau a gweithgaredd creadigol ar y safle
-
Cefnogi’r grŵp ffrindiau mewn gwaith ymarferol ar y safle
-
Trefnu digwyddiad ymchwil cymunedol yn yr Haf
-
Gweithio ar Simnai Vivian, Odyn Galch a Thŷ Injan Musgrave
-
Cynnig mwy o gyfleoedd i ysgolion a’r cyhoedd ymgysylltu â’r safle
-
Creu cynllun busnes ar gyfer y Labordy Hanes Byw yn y Adeiladau’r Labordy a’r Pwerdy.