Gweithgareddau a chofnodion y Grŵp Cyfeillion
Mae gan Waith Copr Hafod-Morfa le pwysig yn hanes teuluol miloedd o deuluoedd yn Abertawe, De Cymru ac ar draws y byd. Mae’r safle hefyd yn rhoi cyfle i lawer o bobl eraill ddysgu am y gorffennol neu ennill sgiliau newydd ar gyfer eu dyfodol.
Mae pobl wedi cymryd rhan fel cefnogwyr, gweithwyr gwirfoddol, ymchwilwyr a llysgenhadon ac wedi helpu i ddatgloi hanesion cudd y safle ac i adnabod y cynhwysion ar gyfer ei lwyddiant yn y dyfodol. Mae llawer rhagor o hanesion heb eu hadrodd am Waith Copr Hafod-Morfa a llawer mwy o waith i’w wneud a gobeithiwn y byddwch chi am gymryd rhan.
Mae Cyfeillion y Gwaith Copr yn cyfarfod bob mis i gynllunio, i drefnu ac i adrodd ar weithgareddau. Gallwch ymuno â’r rhestr bostio neu ofyn cwestiwn fan hyn (dolen at y ffurflen ymuno)
Dogfennau allweddol – cyfansoddiad, cofnodion, dogfennau ymgynghori.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Mae’r safle’n cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y safle. Rydym wedi cynnal cloddfeydd archeolegol cymunedol, adnabod gwrthrychau a dyddiau casglu a gwyliau a dathliadau.
Byddwn yn trefnu rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol ac rydym bob amser yn croesawu awgrymiadau a chynigion am syniadau arloesol.