Bachgen y Cwt Injan

Narrated by Kate Evans


Judith Scott ydw i. Mae hi’n ddwy fil ac un deg pedwar.

Mae’r Cwt Injan yn agos at Felinau Copr yr Hafod. Ei fwriad oedd gyrru’r melinau. Roedd hyn yn cael ei wneud gan olwyn fawr wedi ei chysylltu â’r prif injan gan nifer o raffau oedd yn gyrru beltiau. “Musgrave” oedd yr injan. Roedd gerau ar yr olwyn fawr i yrru rholiau’r felin. Fel bachgen, bu bron i fy nhad-cu, George Paddison, gael ei ladd mewn damwain ar yr olwyn hon yn un naw un chwech.

Roedd y bechgyn yn y gwaith yn chwarae gêm, sef eistedd ar y rhaffau ar y rhan isaf er mwyn codi rhai troedfeddi arnyn nhw ac yna neidio i ffwrdd.

Methodd fy Nhad-cu â neidio oddi ar y rhaffau a chafodd ei gario dros yr olwyn ac i lawr i’r pwll. Cafodd ei godi i fyny, gan feddwl ei fod wedi marw, a’i lapio mewn sachau a’i gludo i farwdy ysbyty Abertawe, lle gwelwyd ei fod yn dal yn fyw. Cafodd ei wnïo yn ôl at ei gilydd yn llythrennol, ar hyd y ffordd i lawr ei ochr chwith.

Rhoddwyd swydd am oes iddo fe. Doedd dim iawndal y dyddiau hynny, ond fe roddwyd swydd iddo i weithio’r bont bwyso, ac yna yn yrrwr craen nenbont. Bu’n gweithio yno am ryw bedair blynedd.

Mae olion y cwt injan yn dal i’w gweld ond mae fandaliaid wedi eu troi’n adfeilion.

Back to Voices of the Past >

SHARE IT:

Comments are closed.