Gwraig o’r Hafod

Narrated by Iona


 
Rwy’n fenyw sy’n byw yn yr Hafod. Mae hi’n un wyth pum deg.

Fe ddechreuais i weithio yn y gwaith copr yn gwthio glo a lludw pan oeddwn i’n ddeg oed. Roedd y gwaith yn galed ac roeddwn i’n blino’n ofnadwy, ond allwn i ddim fforddio bod yn dost. Byddwn i’n mynd i’r ysgol weithiau, oni bai bod fy angen i gartref. Ces fy magu yn siarad Cymraeg, ond roedd popeth yn Saesneg yn yr ysgol ac roedd hynny’n galed i ddechrau. Fe ddysgais i wneud fy nillad fy hun, ac ar ôl i mi dyfu lan, fe briodais i fwyndoddwr o’r stryd nesaf.

Dwi’n edrych yn hŷn na dy fam, yn deneuach na dy wraig, yn fwy blinedig na dy chwaer, ac yn galetach na dy ferch. Dwi bob amser yn bwyta ar ôl fy ngŵr a’m plentyn. Fydda i byth yn cael amser i weld y meddyg, a dwi bob amser yn cael trafferth dod yn ôl ataf fy hun ar ôl ataf fy hun ar ôl cael babi. Bu farw rhai o’m mhlant cyn cyrraedd eu pen-blwydd ym bump oed.

Dwi’n mynd i’r capel ac fy nghymdogion yw fy ffrindiau. Dwi’n gofalu i gadw fy ffwrn yn dwym, i fwydo fy nheulu, i gadw’r tŷ yn lân ac i dalu’r rhent.

Edrychwch arna’ i. Mae fy adlewyrchiad yn dangos plentyn, merch ifanc, gwraig a mam ac os Duw â’i myn, hen wraig yn derbyn gofal gan fy merched. Ond fel arall, gallwn ddiweddu fy oes yn y wyrcws.

Rydw i ym mhobman yn yr Hafod, ond dydw i ddim i ngweld yn y llyfrau hanes.

Hanes bywyd cyfansawdd wedi ei greu o amryw o ffynonellau gan Dr Lesley Hulonce o Brifysgol Abertawe.

Back to Voices of the Past >

SHARE IT:

Leave a Reply

You can use these tags: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>